Ar y Groesffordd

Ciw-restr ar gyfer Doctor Huws

(Jared) {Gan edrych ar y plaen ar ol plaenio ' ychydig.}
 
(3, 0) 681 Rwyn dod i mewn yn ddiseremoni iawn, Mr. Harris, ond Dic Betsi—
(Mr Harris) {Gan gyfeirio'i sylw at NEL.}
 
(Mr Harris) Dyma Nel Davis, Doctor; y funud ma roedd hi'n dod i mewn i ddeyd am y digwyddiad.
(3, 0) 684 Rwyn gofyn cymwynas go fawr gennych, Mr. Harris—gawn ni ddod a Richard Davis i mewn i'r gegin neu rywle; mae pob munud yn werthfawr.
(Nel) {Ar ei gliniau o flaen y DOCTOR.}
 
(Nel) Oes rhyw lygedyn o obaith?
(3, 0) 687 Dowch chi, ngeneth i, mi wnawn ein gore rhyngom; peidiwch mollwng rwan.
(3, 0) 688 Gawn ni ddod a fo yma, Mr. Harris?
(Mr Harris) Cewch, wrth gwrs; fe awn allan ein dau i gyfarfod â nhw.
 
(Nel) {Daw DOCTOR a Mr. BLACKWELL i mewn o'r dde.}
(3, 0) 934 Dyma Mr. Blackwell y Plas.
(3, 0) 935 Mae wedi dod yma i weld sut mae Richard Davis.
(Mr Blackwell) Ryw'n gofyn i chi scusio fi'n dod i tŷ chi, Mr. Harris, ond oedd yn ddrwg mawr gen i clywed fod Dic—bod Richard wedi brifo mor dost, ac wrth y cownt ma Doctor yn rhoi, ma fo'n |case serious| iawn.
 
(Nel) {Cyfyd yn benisel ac arweinir hi allan ar y chwith, a syrth y llen ar y ddau yn cyrchu'n araf at y drws.}
(4, 0) 979 Gweithio'n galed, Harri?
(Harri) Go lew, Syr.
 
(Harri) Mae Mr. Harris y gweinidog a finnau am weithio'n hwyr heno er mwyn gorffen rhyw ddrysau a ffenestri sydd i fod yn barod erbyn diwedd yr wsnos.
(4, 0) 982 Wedi mynd i'w dê mae o rwan?
(Harri) Ie, Syr.
 
(Harri) Ie, Syr.
(4, 0) 984 Beth ydi dy farn di am dano fel jeinar?
(4, 0) 985 Dyma ti wedi cael tri diwrnod o brawf arno erbyn hyn.
(Harri) Mae o wedi colli i law ar y grefft, ond mae'n hwbio mlaen dipyn gwell heddiw.
 
(Harri) Mae o wedi colli i law ar y grefft, ond mae'n hwbio mlaen dipyn gwell heddiw.
(4, 0) 987 Mae'n rhaid fod cwrs byd ers pan bu'n gneud gwaith jeinar?
(Harri) Oes, mae chwech ne saith mlynedd, medde fo.
 
(Harri) Mae'n weinidog yma ers dros ddwy, a rhyw dair neu bedair blynedd yn y coleg at hynny.
(4, 0) 990 Patrwm o ddyn ydi o, wel di, ne fasa fo ddim yn gweithio'n rhad ac am ddim fel hyn yn lle Jared yr wsnos yma.
(4, 0) 991 Dyna beth ydi practical Christianity wyddost.
(Harri) Sut mae Jared Jones y pnawn ma, yr.
 
(Harri) Sut mae Jared Jones y pnawn ma, yr.
(4, 0) 993 Gwael iawn, druan; mae'n methu symud er dydd Llun.
 
(Hopcyn) Sut mae Jared rwan, Doctor?
(4, 0) 996 Digon gwael ydi o.
(Ifan) Dydi o ddim yn anobeithiol ydi o?
 
(Ifan) Dydi o ddim yn anobeithiol ydi o?
(4, 0) 998 Mae'n anodd deyd hyd yn hyn.
(4, 0) 999 Y perig ydi i'r dolur yma gyrraedd ei galon, ac wedyn mi fydd ar ben ar yr hen greadur.
(Ifan) {Gan eistedd yn bendrist ar focs.}
 
(Hopcyn) Mi fydd hanner y pentre ma wedi mynd os aiff Jared.
(4, 0) 1005 Peidiwch a chymryd golwg rhy ddifrifol ar y cês: fe all ddod drwyddi os medra i gadw'r drwg o'i galon o.
(Hopcyn) Mae golwg go lew ar i wyneb o hefyd, Doctor; wrth gwrs doedd fawr o scwrs i gael â fo.
 
(Hopcyn) Mae golwg go lew ar i wyneb o hefyd, Doctor; wrth gwrs doedd fawr o scwrs i gael â fo.
(4, 0) 1007 Un twyllodrus iawn ydi'r gwyneb.
(4, 0) 1008 Wel, i newid y stori, go lew y gweinidog yn cymryd i le fo fel jeinar yntê?
(Hopcyn) Mwy na go lew—ardderchog!
 
(Ifan) Ie, iechyd i'w galon o.
(4, 0) 1011 Ydi o'n wir i fod o wedi cael galwad o eglwys fawr yn Lerpwl na?
(Ifan) Ydi nen tad!
 
(Ifan) Mae dwy ne dair o eglwysi mawr am i ddwyn o oddiarnom yn Seilo, rhen gnafon sâl.
(4, 0) 1014 Aiff o?
(Hopcyn) Nac aiff, gobeithio'r annwyl.
 
(Hopcyn) Nac aiff, gobeithio'r annwyl.
(4, 0) 1016 Wel, taswn i yn i le o, mi symudwn, a mi gadawswn chi fynd i'ch crogi yn Seilo ar ol y tro gwael naethoch chi â fo flwyddyn yn ol.
(Hopcyn) Cyfeirio rydach chi at y ngwaith i a blaenoriaid eraill yn sefyll yn erbyn iddo briodi Nel Davis?
 
(Hopcyn) Cyfeirio rydach chi at y ngwaith i a blaenoriaid eraill yn sefyll yn erbyn iddo briodi Nel Davis?
(4, 0) 1018 Ie, wrth gwrs.
(Hopcyn) Chware teg i ninnau, Doctor; doedd bron neb yn Seilo, ond Jared druan, yn fodlon iddo briodi Nel Davis yr adeg honno.
 
(Ifan) Heblaw hynny, mi fasa Mr. Harris wedi ei phriodi yn ein dannedd oni bae iddi wrthod yn bendant.
(4, 0) 1021 Lol i gyd!
(4, 0) 1022 I wrthod o ddaru hi am y gwyddai hi mor groes oeddach chi i'r briodas, yr hen set wael.
(4, 0) 1023 Ond wedi chi ddeall fod peth o waed Scweiar y Plas yng ngwythiennau Dic Betsi, a bod y Scweiar wedi anfon Nel Davis i Lunden ar i gost i hun i gael dipyn o addysg, dyma chithau'n dechreu newid eich barn am dani'n araf.
(4, 0) 1024 Ar y ngair i, rwyf bron a choelio y basach chi'n fodlon iddi fod yn wraig y gweinidog erbyn heddiw,
(Hopcyn) Hawdd i chi siarad, ond mi wranta fod Nel Davis wedi codi yn eich barn chitha wedi i'r secrat ddod allan i bod hi'n rhyw berthyn pell i Mr. Blackwell.
 
(Hopcyn) Ryda ni bawb wedi gofyn i chi droion.
(4, 0) 1030 Run ateb sy gen i: wn i ddim.
(Ifan) Gwyddoch o'r goreu, ond mi gaiff Doctor balu celwydd yn ddi-gosb; mi wyddoch chi a'r Scweiar drwy'r misoedd ymhle mae hi, ond na ddeydwch chi ddim.
 
(Ifan) Gwyddoch o'r goreu, ond mi gaiff Doctor balu celwydd yn ddi-gosb; mi wyddoch chi a'r Scweiar drwy'r misoedd ymhle mae hi, ond na ddeydwch chi ddim.
(4, 0) 1032 Wel, mi wn ymhle mae hi'r funud ma.
(Y Ddau) Ymhle?
 
(Y Ddau) Ymhle?
(4, 0) 1034 I mewn yn tŷ yn tendio ar Jared.
(Ifan) Gwarchod pawb, ydi hi yn y tŷ rwan?
 
(Hopcyn) Cellwar â ni rydach chi, fel arfar?
(4, 0) 1037 Nage'n wir.
(4, 0) 1038 Dysgu bod yn nyrs roedd hi yn Llunden, ac fe yrrais am dani i ddod i nyrsio Jared, ac mi wyddwn mai'r unig beth fasa'n dod a hi yma fasa clywed fod yr hen Jared mor wael.
(4, 0) 1039 Mae hi'n leicio Jared erioed.
(Ifan) Wel diain i, mi fydd gen i ofn mynd i weld Jared os ydi hi'n tendio arno.
 
(Hopcyn) Ond diolch i'r trugaredd, mi gaiff Jared well siawns i wella os gwellith o,
(4, 0) 1043 Dyda chi ddim yn dal dig at Nel Davis, gobeithio?
(Hopcyn) Na, ryda ni i gyd yn fwy cymedrol erbyn hyn yn ein syniad am dani, ond y pwnc ydi, beth ydi'i syniad hi am Ifan a finna, achos mi ŵyr mai ni'n dau oedd y ring-ledars yn i herbyn hi dros flwyddyn yn ol.
 
(Hopcyn) Na, ryda ni i gyd yn fwy cymedrol erbyn hyn yn ein syniad am dani, ond y pwnc ydi, beth ydi'i syniad hi am Ifan a finna, achos mi ŵyr mai ni'n dau oedd y ring-ledars yn i herbyn hi dros flwyddyn yn ol.
(4, 0) 1045 Peidiwch a chyboli'n wirion, mi fydd yr eneth yn |all right| â chi ar ol rhyw funud, a gobeithio y rhoith hi grafiad ne ddau i chi'ch dau.
(4, 0) 1046 Ond rwan, does neb ond fi a'r Sgweiar yn gwybod i bod hi wedi dod i nyrsio Jared, a pheidiwch ar un cyfri a deyd wrth Mr. Harris nes y daw o i wybod i hun.
(4, 0) 1047 Harri, meindia di ar dy fywyd na ddeydi di ddim wrtho pan ddaw'n ol o'i dê.
(Harri) Dim perig i mi ddeyd, syr.
 
(Harri) Dim perig i mi ddeyd, syr.
(4, 0) 1049 Rwan mi awn i'r tŷ ein tri.
(Ifan) Diaist, mae gen i dipyn o ofn i gwynebu hi.
 
(4, 0) 1063 Mi ddeuthoch yn ol o'ch tê, mi welaf.
(Mr Harris) Do.
 
(Mr Harris) Sut mae Jared rwan, Doctor?
(4, 0) 1068 Canolig iawn.
(4, 0) 1069 Rwyf newydd ddod a nyrs i dendio ar yr hen lanc er mwyn rhoi pob chware teg iddo wella, os oes gwella i fod.
(Mr Harris) Newydd ddod mae'r nyrs?
 
(Mr Harris) Newydd ddod mae'r nyrs?
(4, 0) 1071 Ie.
(4, 0) 1072 Pan gymrwyd Jared yn wael echdoe mi welais fod y cês yn un seriws, ac mi rois y peth o flaen y Scweiar, ac mi ddeydodd wrtho i yn y fan y basa fo'n talu am nyrs o'i boced i hun.
(4, 0) 1073 Mi yrrais am dani ar unwaith ac mi ddoes a hi i'r tŷ rwan jest.
(Mr Harris) Chware teg i'r hen Scweiar, er na faddeuais i byth iddo am fynd a Nel Davis i ffwrdd.
 
(Mr Harris) Roedd eich bysedd chitha yn y bwti hwnnw, a ddwedwch chi na'r Scweiar ddim wrtho i ymhle mae hi yn Llunden.
(4, 0) 1076 Does neb ond y Scweiar ŵyr, a phob tro y gofynnaf iddo am |address| Nel Davis, "Fi wedi rhoi |word of honour| fi i Nel Davis i beidio deyd," medda fo.
(Mr Harris) Dyna'i gân o i minnau hefyd, ond chreda i byth na wyddoch chitha hefyd.
 
(Mr Harris) Dyna'i gân o i minnau hefyd, ond chreda i byth na wyddoch chitha hefyd.
(4, 0) 1078 Peth difrifol ydi bod yn anghredadun, Mr. Harris.
(4, 0) 1079 Gyda llaw, mae'r nyrs eisia coed tân, ac mi ddaw yma'n y funud i gael rhai.
(4, 0) 1080 Cloben o Saesnes hyll ofnadwy ydi hi; doedd dim Cymraes i'w chael, mae'n debig.
(4, 0) 1081 Wel, pnawn da.
(Mr Harris) Ac i chitha.
 
(4, 0) 1203 Gadewch lonydd i'r dyn—does dim y mater ar Jared, mae o cyn iachad ag afal Awst.
(Mr Harris) {Yn ddigllon.}
 
(Mr Harris) Ydach chi'n meddwl y baswn i'n troi yn jeinar yn lle Jared Jones pe baswn i'n gwybod?
(4, 0) 1229 Na doedd neb yn gwybod ond y Scweiar a Jared a finnau.
(4, 0) 1230 Rwyn meddwl y dylai Mr. Harris fod yn fodlon i mi gael un gusan gan Nyrs Davis, achos fi ddaru gynllunio iddynt ddod at i gilydd.